Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Merched

EnglishCymraeg

Ers 2008 rydym wedi bod yn ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn merched trwy godi ymwybyddiaeth o’i natur, maint ac effaith.

Addewid Nid yn fy Enw i

Mae Sefydliadau y Merched ar draws y wlad wedi bod yn recriwtio llysgenhadon gwryw a phenderfynwyr lleol i addo i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel ynghylch trais gan ddynion yn erbyn merched.

Trwy arwyddo’r addewid a gwisgo rhuban gwyn, mae dynion yn gallu cyfathrebu’r neges bod camdriniaeth ddomestig yn annerbyniol ac ni ddylid byth ei anwybyddu nac esgusodi.

Mae cefnogwyr yr ymgyrch yn 2023 wedi cynnwys Criced Morgannwg, Clwb Pêl droed Dinas Caerdydd / Cardiff City FC, Narberth Otters RFC a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Datganiad o gefnogaeth gan Criced Morgannwg

Mae Criced Morgannwg yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon, yn enwedig rhannu’r neges gyda bechgyn a dynion yng Nghymru i gymryd sylw o’r neges ‘Nid yn fy Enw i’ bod trais yn erbyn menywod yn gwbl annerbyniol. Mae gan griced rôl i hyrwyddo’r negeseuon hyn ac rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch hon. - Mark Frost, Rheolwr Datblygu Gweithgareddau’r Gymuned, Criced Cymru & Morgannwg

Poster addewid Nid fy Enw i

Gwylnos yng ngolau canhwyllau

FfCSyM-Cymru yn nodi’r Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn.

Ar 20 Tachwedd 2023, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiad i randdeiliaid ac wedyn gwylnos yng ngolau canhwyllau yn gynnar yn y nos ar risiau’r Senedd. Darllenwch fwy yma am y digwyddiadau.

Cystadleuaeth Nid yn fy Enw i

Cystadleuaeth 2023 yr ymgyrch Nid yn fy Enw i oedd i Ddylunio a Chreu Bag Tote. Llongyfarchiadau i'r enillydd - Barbara Pearce, SyM Hilperton, Ffederasiwn Wiltshire.

Darllenwch fwy am y gystadleuaeth yma.

Gweithredwch

Dyma rai o’r ffyrdd mae aelodau yn gweithredu:

  • gwneud rhubanau gwyn i lysgenhadon gwisgo
  • trefnu cyfleoedd tynnu llun o lysgenhadon yn dal neu’n arwyddo’r poster
  • cysylltu ag awdurdodau lleol - mae nifer wedi derbyn neu yn gweithio tuag yr achrediad Rhuban Gwyn
  • gweithio gyda grwpiau menywod fel Cymorth i Ferched a Hafan Cymru i drefnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ar y cyd
  • cyhoeddi datganiad i’r wasg a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu gweithgareddau gan ddefnyddio’r hashnod ‘NidynfyEnwi

Am fwy o gyfleoedd i gymryd rhan, gall aelodau logio i mewn i My WI.