Sefydliad y Merched yn nodi’r 16 Diwrnod o Weithredu gyda digwyddiadau yn y Senedd a Pierhead
I nodi’r 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar Sail Rhywedd, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiadau yn y Senedd, a noddwyd gan Shav Taj AS, ar 23 Tachwedd 2026.
Myfyriodd Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru, ar thema’r Rhuban Gwyn eleni, ‘Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom’, ac ar rôl bwerus aelodau Sefydliad y Merched fel ymgyrchwyr cymunedol sy’n arwain gweithredu yn eu ffederasiynau a’u canghennau i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac i ennyn cefnogaeth cynghreiriaid i sefyll yn erbyn trais dynion yn erbyn menywod.
Anerchodd Jeryl Stone, Cadeirydd FfCSyM, y rhanddeiliaid am yr ymgyrch Dim Menyw Heb Gartref.
Yn gysylltiedig â’n hymgyrch newydd, cynhaliwyd trafodaeth banel yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng trais yn erbyn menywod a digartrefedd. Dan arweiniad Ruth Dodsworth OBE, roedd y panel yn cynnwys Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru; Sam Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Llamau; a Samsunear Ali, Prif Weithredwr Bawso.
Cyhoeddwyd enillydd a’r rhai a ddaeth yn ail ac yn drydydd yn ein cystadleuaeth Nid yn fy Enw i i Ddylunio a Chreu Mat Diod yn darlunio’r ymgyrch i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod. Llongyfarchiadau i Serena Owen WI, West Kirby WI, Ffederasiwn Swydd Gaer, am y cynnig buddugol. Aeth yr ail safle i Penelope Bourne, Old Basing WI, Hampshire, a’r trydydd safle i Chrissie Southall, Driffield Afternoon WI, Dwyrain Swydd Efrog.

Jill Rundle
Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i lofnodi'r bwrdd addewid Nid yn fy Enw i ac i weld y cynigion a ddaeth i law yn y gystadleuaeth.
Hefyd yn cael ei arddangos, oedd gosodiad 'bom cariad' gan aelod SyM Liz Davis OBE, SyM Llandenny & District, Ffederasiwn Gwent. Mae ‘Bom cariad’ yn tynnu sylw at reolaeth orfodol. Wedi'u cuddio o flaen y golwg mae arwyddluniau tywyllach – ewinedd rhydlyd wedi'u hymgorffori mewn ffabrig cain; gefynnau a chadwyni i arfer pŵer a rheolaeth – i glymu. Mae'r gosodiad yn oren mewn undod ag ymgyrch y Cenhedloedd Unedig i amddiffyn menywod a merched yn fyd-eang.

cystadleuaeth Nid yn fy Enw i
'bom cariad'
Gyda'r nos, cynhaliwyd gwylnos yng ngolau canhwyllau yn y Pierhead, i ddangos undod â goroeswyr trais yn erbyn menywod. Yn annerch yr wylnos bydd goroeswyr; Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb; Dan Ley, llysgennad IAWN x Rhuban Gwyn; a chynrychiolwyr trawsbleidiol. Daeth y digwyddiad i ben gyda pherfformiad gan y Côr Heb Enw Caerdydd a thaith gerdded gyda chanhwyllau.