Crynodeb o bresenoldeb SyM yn Sioe Frenhinol Cymru 2026

EnglishCymraeg

Cawsom bedwar diwrnod llwyddiannus yn Sioe Frenhinol Cymru yn Orffennaf 2026. O dan ofal Ffederasiwn Powys Brycheiniog, roedd y stondin wedi cynnwys arddangosfa drawiadol ar y thema Coedwig Fawr Brycheiniog gan gynnwys arddangosfa hardd o goed.

Dyma rhai o uchafbwyntiau’r wythnos:

  • Yn ymweld â’n stondin oedd Jeryl Stone, Cadeirydd FfCSyM, Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb; Huw Irranca-Davies, Llywydd Senedd Cymru; David Chadwick, Aelod Seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe; a Teleri Glyn Jones, cynrychiolydd Sioe Frenhinol Cymru.
  • Roedd yr arddangosiadau dyddiol, o beintio cerrig ac origami i nyddu a gwehyddu, wedi creu diddordeb mawr.
  • Cafodd Lisa Howells, FfCSyM-Cymru ac Iona Roberts, Ffederasiwn Powys Brycheiniog eu cyfweld ar gyfer darllediad S4C o uchafbwyntiau'r Sioe.
  • Cawsom geisiadau ysblennydd yn ein cystadlaethau Bowlen Rhosod a Chwpan Brycheiniog ar y thema Cylch, Cylchoedd a Phopeth Crwn. Roedd y ceisiadau ar ddangos drwy gydol yr wythnos i ymwelwyr eu hedmygu. Darganfyddwch fwy yma.