Crynodeb o bresenoldeb SyM yn Sioe Frenhinol Cymru 2026
Cawson ni bresenoldeb llwyddiannus yn Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd o 1 - 8 Awst 2026. O dan ofal Ffederasiwn Sir Benfro, pob dydd croesawon ni gannoedd o ymwelwyr yr Eisteddfod at ein stondin ar y Maes.
Dyma rhai o uchafbwyntiau ein hwythnos:
- Yr arddangosiadau dyddiol ag arweiniwyd gan aelodau - o wehyddu â gwŷdd pegiau, crosio a gwneud addurniadau Nadolig i drefnu blodau ffres, creu cardiau, coginio ac addurno wyau arddull Fabergé.
- Sgwrsio â rhai nad ydynt yn aelodau am bopeth a gynigwyd drwy aelodau SyM a rhai merched yn cofrestru i fynychu sesiwn blasu yn ei SyM lleol.
- Ymweliad gan Sioned Williams AS, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb a Safa Elhassan AS.
- Dal i fyny gyda mudiadau gan gynnwys TUC Cymru, y Rotari a Dewis Choice.
- Recriwtio llysgenhadon i arwyddo’r bwrdd addewid Nid yn fy Enw i gan gynnwys addewid y Rhuban Gwyn i ‘beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel ar drais gan ddynion yn erbyn merched’.









