Ymunwch â SyM i nodi'r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar sail Rhywedd
Yn flynyddol, mae SyM yn cynnal digwyddiadau yn y Senedd i ddod a rhanddeiliaid at ei gilydd i nodi'r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd.
Bydd ein digwyddiadau yn 2026, a noddir gan Shav Taj AS, yn cymryd lle ar ddydd Llun 23 Tachwedd.

Digwyddiad i randdeiliaid (Hybrid)
Y Neuadd, Senedd, Bae Caedydd, 11yb tan 1yp
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys trafodaeth yn canolbwyntio ar drais yn erbyn merched a digartrefedd gyda chyfraniadau wrth:
- Ruth Dodsworth OBE, goroeswraig camdrin domestig, ymgyrchydd, cyflwynwraig a newyddiadurwraig
- Llamau, un o brif elusennau digartrefedd yng Nghymru gyda'r nod o ddiweddu digartrefedd ymhlith pobl ifanc a menywod agored i newid
- Y Cynghorydd Andrea Harrington, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar faterion tai
- Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr, Cymorth i Ferched Cymru.
Cofrestrwch i fynychu: Ffurflen gofrestu / Registration form – Fill out form
Gwylnos yng Ngolau Canhwyllau
Y Pierhead, Bae Caerdydd gan orffen gyda thaith gerdded fer gyda chanhwyllau, 6yp tan 7.30yh
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i gefnogwyr dod at ein gilydd i ddangos undod gydag oroeswyr.
Siaradwyr wedi eu cadarnhau:
- Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
- Dan Ley, Llysgennad IAWN x Rhuban Gwyn
- Jeryl Stone, Cadeirydd FfCSyM
Bydd goroeswraig hefyd yn siarad. I ddangos cefnogaeth traws-bleidiol, mae pob parti gwleidyddol wedi cael gwahoddiad i wneud datganiad byr.
Cofrestrwch yma i fynychu: Ffurflen gofrestu - Gwylnos yng Ngolau Canhwyllau / Registration form - Candlelight vigil – Fill out form