Rhoi Pen ar Gawl Plastig

EnglishCymraeg

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar lygredd microplastig yn ein moroedd trwy gyhoeddi strategaeth yn amlinellu'r camau bydd yn cymryd i ymchwilio i lygredd ffibrau microplastig a’i leddfu.

Ar 2 Ebrill 2019, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiad galw draw yn y Cynulliad i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch a noddwyd gan Mike Hedges AC. Mynychodd ACau ar draws y partïon gwleidyddol, ynghyd â mudiadau eraill sy’n gweithio ar lygredd microplastig.

Yn y digwyddiad, rhannon ni ddarganfyddiadau’r adroddiad In a Spin a thrafod gofynion allweddol yr ymgyrch. Roedd cyfle tynnu llun er mwyn i randdeiliaid addo eu cefnogaeth.