Newid Hinsawdd

EnglishCymraeg

Dros nifer o flynyddoedd, mae aelodau SyM yng Nghymru wedi bod yn gweithredu i frwydro newid hinsawdd yn eu cymunedau a thu hwnt.

Mae FfCSyM-Cymru yn aelod o Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, cynghrair o fudiadau dylanwadol yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddygyfor ein cefnogwyr ac eraill ar draws Cymru, i sicrhau newidiadau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae FfCSyM-Cymru yn bartner o Climate Cymru. Mae Climate Cymru yn rhwydwaith gweithredol o bron i 300 o fudiadau o bob sector o gymdeithas yng Nghymru ac yn symudiad o dros 13,000 o unigolion ar draws Cymru sy’n pryderu am newid hinsawdd.

Dangos y Cariad

Pob Chwefror mae aelodau SyM yng Nghymru yn troi Dydd San Ffolant yn wyrdd trwy greu a gwisgo calonnau gwyrdd er mwyn dangos eu hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Eleni trefnodd aelodau ar draws y wlad gweithdai crefft calonnau gwyrdd, trafodaethau ac arddangosiadau, a ddosbarthwyd calonnau gwyrdd yn eu cyfarfod mis Chwefror

Am fyw o gyfleodd i gymryd rhan yn ein hymgyrch Newid Hinsawdd, gall aelodau logio i mewn i My WI.

For more ways to get involved in our Climate Change campaign members can log in to My WI.