Mae Gwylwyr yn gallu Achub Bywydau

EnglishCymraeg

Mae’r ymgyrch hon yn gallu ar aelodau SyM i weithio gyda’i gilydd i wella hyder cyhoeddus a hyfforddiant cardiopwlmonaidd (CPR), ac i weithio gyda sefydliadau lleol i helpu i wella mynediad at ddiffibrilwyr yn eu cymunedau.

Mae aelodau SyM wedi bod yn ymgymryd â hyfforddiant CPR ac mae ffederasiynau a sefydliadau wedi bod yn trefnu sesiynau codi ymwybyddiaeth CPR. Mae rhai sefydliadau hefyd wedi bod yn codi arian ar gyfer mwy o ddiffibrilwyr yn eu cymuned leol.

Cynhaliodd SyM Defynnog a Sennybridge, Powys Brycheiniog gyfarfod ‘Mae Gwylwyr yn gallu Achub Bywydau’ ym mis Mawrth 2026. Arweiniodd aelod SyM, Cheryl Williams, y ffordd mewn dysgu sut i roi CPR a defnyddio diffibriliwr. Dysgwyd aelodau hefyd sut i roi claf yn y safle adfer a thimau tag CPR.

Llwyddodd SyM St Florence, Sir Benfro, i godi arian i brynu diffibriliwr cymunedol. Ym mis Rhagfyr 2025, gosodwyd y diffibriliwr y tu allan i Neuadd y Pentref lle mae’r SyM yn cynnal ei gyfarfodydd misol.

Mae FfCSyM-Cymru yn gweithio gydag Achub Bywyd Cymru sydd wedi creu fideo CPR ar gyfer SyM i gefnogi aelodau a'r cyhoedd ehangach i ddysgu sgiliau CPR. Gwyliwch a rhannwch y fideo yn eang.

Ymwelwch â https://www.thewi.org.uk/campaigns/key-and-current-campaigns/bystanders-can-be-lifesavers i ddarganfod mwy am yr ymgyrch.