Menywod Cymru’n galw am weithredu ar frys ynghylch canser yr ofari

EnglishCymraeg

Ar 14 Tachwedd, cyflwynodd FfCSyM-Cymru a Target Ovarian Cancer deiseb cryf â 755 o lofnodion i Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethu Cymdeithasol yn galw am weithredu ar frys i ariannu ymgyrch genedlaethol yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari.

I nodi cyflwyniad y ddeiseb, daeth aelodau SyM a chefnogwyr Target Ovarian Cancer at ei gilydd ar risiau’r Senedd lle siaradwyd ag ASas am yr angen am weithredu ar frys i fynd i'r afael â’r argyfwng diffyg ymwybyddiaeth o ganser yr ofari. Dywed Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru:

“Yn 2021, pasiodd aelodau SyM gynnig yn galw am fwy o weithredu i godi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser yr ofari er mwyn achub bywydau. Mae gwell ymwybyddiaeth o’r symptomau’n hollbwysig i gael diagnosis cynnar. Yn syml, mae gormod o bobl yn marw am nad yw eu canser yr ofari’n cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar. Mae aelodau SyM yn dweud yn glir bod rhaid i hyn newid.”

Mae dros 300 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofari yng Nghymru bob blwyddyn ac mae’r cyfraddau goroesi ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Er hynny, nid oes digon o bobl yn gwybod am y symptomau na’r hyn i edrych allan amdano. Mae’n destun pryder bod ymchwil yr elusen Target Ovarian Cancer wedi dangos mai dim ond rhyw chwarter o fenywod sy’n gwybod bod bola chwyddedig yn symptom allweddol o ganser yr ofari. Dywedodd Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer, Annwen Jones OBE:

“Gan nad oes rhaglen sgrinio ar gyfer canser yr ofari ar hyn o bryd, mae ymwybyddiaeth o symptomau’n bwysicach fyth. Drwy wybod beth yw’r symptomau, mae menyw’n fwy tebygol o gysylltu â’i meddyg teulu gyda’i phryderon yn gynt, fel y gellir diystyru neu gadarnhau diagnosis o ganser yr ofari. Byddai ymgyrch ymwybyddiaeth a ariennir gan y llywodraeth ac sy’n rhestru’r symptomau - bola chwyddedig parhaus, poen abdomenol, yr angen i basio dŵr yn amlach a theimlo’n llawn yn gyflym - yn mynd i’r afael â’n pryderon ni, yn cynyddu nifer y menywod sy’n cael diagnosis yn gynnar ac yn y pen draw, yn gwella’r tebygolrwydd o oroesi.”

Mae Amanda Davies, 49 oed, o Sir Benfro, yn annog y llywodraeth i roi blaenoriaeth i’r maes hwn o iechyd menywod ar ôl cael diagnosis o ganser yr ofari ei hun. Dywedodd:

“Erbyn i’r holl symptomau ymddangos gyda’i gilydd, roedd gen i ganser yr ofari cam 3 a dim ond chwe mis oedd gen i ar ôl i fyw. Roedd yn drychinebus. Roeddwn i wedi bod yn mynd i weld y meddyg teulu, ond chefais i fyth unrhyw ymchwiliadau. Roedden nhw’n fy ystyried i’n ‘rhy ifanc’ i fod â’r clefyd.

“Roedd gen i fola chwyddedig a phoen abdomenol, dau o’r prif symptomau, ond roedd symptomau eraill nad oeddwn i’n eu gwybod. Wnes i fyth rhoi’r holl symptomau at ei gilydd, er fy mod i’n gwybod bod Mam-gu wedi marw o ganser yr ofari. I feddwl taw canser yr ofari oedd yn fy ngwneud i’n sâl. Pe bai ymgyrch ymwybyddiaeth wedi bod, yn rhestru’r symptomau ac yn rhannu profiadau menywod o bob oed, a fyddwn i wedi rhoi’r holl beth at ei gilydd?

“Mae ymgyrch gan y llywodraeth i godi ymwybyddiaeth o symptomau ac i ddenu cyllid ar gyfer ymchwil ac elusennau sy’n cynorthwyo cleifion â chanser yr ofari yn flaenoriaeth, fel y dylai fod. Yn aml caiff y symptomau eu camgymryd am glefydau eraill neu straen, neu caiff menywod ifancach ddiagnosis anghywir. Mae’n bosibl bod menywod yn dal i deimlo embaras wrth sôn am “broblemau merched” a byddant yn aml yn cysylltu’r symptomau â’r broses o heneiddio – sy’n golygu bod y canser wedi cyrraedd cam hwyrach, gan ei wneud yn amhosibl i’w drin mewn rhai achosion – gan achosi marwolaethau diangen.”

Darganfyddwch fwy am ymgyrch Sylwi ar y Symptomau SyM: https://www.thewi.org.uk/campaigns/key-and-current-campaigns/see-the-signs