Presenoldeb Sefydliad y Merched yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bydd yr Eisteddfod yn cymryd lle ar gyrion Wrecsam o 2 tan 9 Awst.
August 2024
Bydd ein stondin, wedi ei leoli ar y Maes, o dan ofal Ffederasiwn Clwyd Dinbych. Bydd gennym amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo ac ymgyrchu ar gael. Am y tro cyntaf, bydd gennym hefyd ardal bwrpasol ar ein stondin lle bydd menywod a merched yn gallu ymlacio, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft.
Bydd digwyddiadau yn cymryd lle ar y stondin trwy gydol yr wythnos:
- Darlleniad o’r ddrama fer Yn Y Tren gan Saunders Lewis - Judith Humphries and Morfudd Hughes, cyfarwyddwyd gan Owen Arwyn. Trafodaeth i ddilyn gyda Manon Wyn Williams a Jerry Hunter - 2yp, Dydd Llun 4 Awst.
- Trafodaeth ar Wisgoedd yr Orsedd - Rhinedd Williams and Ela Jones - 12.30yp, Dydd Mawrth 5 Awst.
- Trafodaeth ar ymgyrch SyM Meddwl yn Wahanol: Merched Awtistig ac ag ADHD - 10.30yb, Dydd Mercher 6 Awst. Heledd Fychan AS mewn trafodaeth gyda Vicky Powner, Non Parry a Sioned Thomas.
- Sgwrs Twyll a Scamiau gan Helen Williams, Banc NatWest - 2yh, Dydd Mercher 6 August.
- Trafodaeth am ymgyrch SyM Dim Mwy o Drais yn Erbyn Merched - 10.30yb, Dydd Iau 8 Awst. Panel yn cynnwys Ann Williams, Cymorth i Ferched Cymru; Shannon Morris, goroeswraig; Ditectif Arolygydd Cefyn Roberts, Heddlu Gogledd Cymru; a Manon Davies, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru.
- Trafodaeth gyda Mererid Hopwood, Archdderwydd, Beti-Wyn James, Arwyddfardd a Christine James, Cofiadur yr Orsedd - 2.30yp, Dydd Iau 8 Awst.
- Sesiynau CPR - 11yb a 2yp, Dydd Gwener 9 Awst.
Fel rhan o ymgyrch newydd SyM ‘Mae Gwylwyr yn Gallu Achub Bywydau’, byddwn yn cynnal sesiynau CPR.
Bydd nwyddau mislif am ddim ac adnoddau yn hyrwyddo'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, sy'n darparu cymorth a chyngor ar drais yn erbyn merched, ar gael ar stondin SyM.
Darganfyddwch fwy am yr Eisteddfod yma.