Sefydliad y Merched yn Nodi’r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd
I nodi'r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiadau yn y Senedd ar 17 Tachwedd gyda Joyce Watson AS.
Yn ei hanerchiad agoriadol, nododd Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru, ei diolch i aelodau SyM am eu hymrwymiad a'u hangerdd wrth ymgyrchu i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben. Dywedodd fod Hyrwyddwyr SyM yn cael eu cefnogi i arwain gweithredu yn eu cymunedau i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched a recriwtio cynghreiriaid fel rhan o ymgyrchoedd SyM Dim Mwy o Drais ac Nid yn fy Enw i. Tynnodd sylw at rai o'r gweithgareddau sy'n digwydd ar draws ffederasiynau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd trafodaeth panel yn canolbwyntio ar drais ar-lein yn erbyn menywod a merched. Aelodau’r panel oedd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol; Yr Athro Olga Jurasz, Cyfarwyddwr y Ganolfan Diogelu Menywod Ar-lein; Lynne Elliot, Prif Weithredwr, White Ribbon UK; a Mat Taylor, Uwch Rheolwr Polisi, Llywodraeth Cymru a Llysgennad Rhuban Gwyn.

Cyhoeddwyd enillydd y gystadleuaeth baner Nid yn fy Enw i. Llongyfarchiadau i SyM Minera, Ffederasiwn Clwyd Dinbych am eu hymgais fuddugol.

Gwyliwch recordiad o'r digwyddiad isod:
Gyda'r nos, cynhaliwyd gwylnos yng ngolau cannwyll ar risiau'r Senedd i ddangos undod â goroeswyr trais yn erbyn menywod. Anerchwyd yr wylnos gan oroeswyr; Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol; llysgennad Rhuban Gwyn Lyndon Roberts; Mwenya Chimba, Cymorth i Ferched Cymru a chynrychiolwyr trawsbleidiol. Daeth yr wylnos i ben gyda pherfformiad gan Samantha - cantores/gyfansoddwraig pop tywyll, soul, ac afrobeats.