Crynodeb o wythnos SyM yn yr Eisteddfod Genedlaethol

EnglishCymraeg

Cawson ni wythnos brysur a chyffrous yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Mae ein presenoldeb yn yr Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau calendr SyM yng Nghymru. Mae'r ŵyl, wythnos o hyd, yn gyfle i ddathlu ac ymgolli yn gelfyddydau, iaith a diwylliant Cymru.

Eleni cawson ni ardal newydd i'r stondin sef 'Gofod Genod' lle oedd gweithgareddau lles fel crefftau, lliwio a jig-sos ar gael. Cynhalion ni hefyd rai digwyddiadau yn ystod yr wythnos yn yr ardal newydd hon.

Diolch i Ffederasiwn Clwyd Dinbych am gynnal y stondin ac i'r aelodau am eu cefnogaeth drwy gydol yr wythnos.

Isod mae uchafbwyntiau ein hwythnos:

Dydd Llun

Roedden ni wrth ein boddau i groesawu Cadeirydd FfCSyM, Jeryl Stone, i'r Eisteddfod. Roedden ni hefyd yn falch o gael ymweliad gan Eluned Morgan MS, Prif Weinidog Cymru.

Yn ystod y prynhawn, cawsom ddarlleniad o'r ddrama fer Yn Y Trên gan Saunders Lewis ac yna trafodaeth. Darlleniad gan Judith Humphries a Morfudd Hughes a'i gyfarwyddo gan Owen Arwyn. Dilynwyd hyn gan drafodaeth gyda Manon Wyn Williams a Jerry Hunter.

Dydd Mawrth

Cynhaliwyd trafodaeth ddiddorol am wisgoedd yr Orsedd gyda Rhinedd Williams ac Ela Jones, Arolygwr Gwisgoedd yr Orsedd.

Hyrwyddwyd stondin SyM ar raglen uchafbwyntiau’r Eisteddfod ar S4C a oedd wedi cynnwys cyfweliad gyda Rhian Connick.

Dydd Mercher

Ar fore dydd Mercher cynhaliwyd trafodaeth ar ein hymgyrch Meddwl yn Wahanol. Diolch i'r panel o arbenigwyr - Sioned Thomas, Niwrowahaniaeth Cymru; Vicky Powner a Non Parry - am eu cyfraniadau pwerus ac i Heledd Fychan MS am arwain y drafodaeth.

Dilynwyd hyn gan gyflwyniad addysgiadol yn y prynhawn gan NatWest ar Dwyll a Sgamiau.

Dydd Iau

Cawsom drafodaeth am ein ymgyrch Dim Mwy o Drais yn Erbyn Merched. Yn ymuno â ni oedd Ann Williams, Cymorth i Ferched Cymru; Shannon Morris, goroeswraig; Manon Davies, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru; a Ditectif Arolygydd Cefyn Roberts, Heddlu Gogledd Cymru.

Yn y prynhawn, roedd yn pleser i groesawu Mererid Hopwood, Archdderwydd, Beti-Wyn James, Arwyddfardd  a Christine James, Cofiadur yr Orsedd i'n stondin. Trafodwyd eu rolau a'u cyfrifoldebau a phwysigrwydd ysbrydoli merched i ymgymryd â rolau o'r fath.