Crynhoad o Gynhadledd Flynyddol Cymru 2026
Ymgasglodd rhyw 440 o aelodau yn Aberystwyth ar 26 March ar gyfer Cynhadledd Cymru 2026.

Yn ystod sesiwn y bore, cawsom groeso i Geredigion gan Gay Evans, Cadeirydd Ffederasiwn Ceredigion. Myfyriodd Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru, ar sut roedd SyM wedi ymateb i newid ac addasu dros y 111 mlynedd diwethaf a chyflwynodd Rhian Connick, Pennaeth FfCSyM-Cymru adroddiad ar y gwaith a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.


Rhannodd Pam Beedan, Is-gadeirydd FfCSyM, ei thaith gyda SyM. Gan gysylltu ag ymgyrch SyM Mae Gwylwyr yn Gallu Achub Bywydau, trafododd Julie Starling o Achub Bywyd Cymru ‘Datblygu Cenedl o Achubwyr Bywydau’ a lansiodd fideo CPR ar gyfer SyM.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Recriwtio 2025 FfCSyM-Cymru. Llongyfarchiadau i SyM Rhoose, Ffederasiwn Morgannwg ar ennill y Wobr Recriwtio yn y categori ‘SyM gyda 24 aelod a llai’ ac i SyM Ton Pentre & Gelli, Ffederasiwn Morgannwg, enillydd y wobr yn y categori ‘SyM gyda 25 aelod a throsodd’.
Hefyd cyflwynwyd gwobrau i enillwyr y Fowlen Rhosod a Chwpan Brycheiniog ar y thema ‘Arlliwiau o un Lliw’. Llongyfarchiadau i Ffederasiwn Morgannawg a enillodd y ddwy gystadleuaeth.
Yn y prynhawn, anerchwyd y Gynhadledd gan y siaradwyr gwadd: Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens.

Dr Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Eurig Salisbury, Bardd, Nofelydd a Darlithydd.

Ac Ann Jones, Uchel Siryf Dyfed.

Diolchodd Mim Roberts, Cadeirydd Ffederasiwn Gwynedd Meirionnydd, i bawb a oedd yn rhan o drefnu’r Gynhadledd a gwahoddodd yr aelodau i fynychu Cynhadledd Cymru 2027 ym Mhorthmadog ar 18 Mawrth.
