Come and see us at the Royal Welsh Show and National Eisteddfod
Sioe Amaethyddiaeth Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Powys: 20-23 Gorffennaf
Bydd arddangosfa SyM ar y thema “Coedwig Fawr Brycheiniog”, a sefydlwyd gan Bernard de Neumarch tua 1100 OC, yn cynnwys enghreifftiau o goed a fyddai wedi’u plannu bryd hynny a bydd Ffederasiwn Powys-Brycheiniog hefyd yn darparu arddangosiadau crefft bob dydd a fydd yn gydymdeimladol â’r thema. Bydd aelodau wrth law i groesawu pob ymwelydd i'r sioe a darparu gwybodaeth am yr arddangosfa yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am SyM a'r ymgyrchoedd. Darganfyddwch fwy am y Sioe.
Eisteddfod y Garreg Las: 1-8 Awst
Cynhelir Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, gogledd Sir Benfro. Bydd ein stondin wedi'i lleoli ar y Maes ac yn cael ei chynnal gan Ffederasiwn Sir Benfro. Bydd y stondin yn hyrwyddo SyM a'r ymgyrchoedd cyfredol fel Meddwl yn Wahanol: Menywod a Merched Awtistig ac ag ADHD a Dim Mwy o Drais yn Erbyn Menywod. Bydd Ffederasiwn Sir Benfro yn arddangos cwilt Dydd Gŵyl Dewi. Bydd arddangosiadau dyddiol yn digwydd a bydd eitemau ar werth fel sgarffiau wedi'u gwau a chalendr yn portreadu tirnodau Sir Benfro. Darganfyddwch fwy am yr Eisteddfod.