Enillwyr Gwobrau Recriwtio 2023 FfCSyM-Cymru

EnglishCymraeg

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Recriwtio 2023 FfCSyM-Cymru yng Nghynhadledd Cymru ar 4 Ebrill 2024. Cyflwynodd Ann Jones, Cadeirydd FfCSyM y gwobrau.

Cyflwynwyd y Wobr Recriwtio yn y categori ‘SyM gyda llai na 25 o aelodau’ i SyM Penllwyn, Ffederasiwn Ceredigion.  Roedd y SyM wedi cynyddu ei aelodaeth o 8 i 18 aelod, cynnydd o 125%. Derbyniwyd y wobr gan Judy Lile, Llywydd SyM Penllwyn.

Enillydd y wobr yn y categori ‘SyM gyda 25 aelod a throsodd’ oedd SyM Miskin & Mwyndu, Ffederasiwn Morgannwg am gynyddu ei aelodaeth o 25 i 54 aelod, cynnydd o 107%. Derbyniwyd y wobr gan Denise Ellis, Llywydd SyM Miskin & Mwyndu.