Presenoldeb SyM yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023

EnglishCymraeg

Presenoldeb SyM yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023

Roedd stondin SyM yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan o dan ofal Ffederasiwn Gwynedd Caernarfon ac yn seiliedig ar y thema ‘rhyddid’.

Hyrwyddwyd rhai o’r materion yn ymwneud â ‘rhyddid’ y mae SyM wedi ymgyrchu arnynt, yn dyddio o flynyddoedd cynnar SyM hyd at y presennol. Mae'r rhain yn cynnwys ymgyrchu dros well diagnosis i fenywod a merched awtistig ac ag ADHD; rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a masnachu menywod a phlant; sgrinio serfigol; a mynediad i wasanaethau bysiau lleol, sydd i gyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau merched.

Enillwyr tlysau SyM

Er mwyn annog arddangosfeydd o safon uwch yn yr Eisteddfod, mae FfCSyM-Cymru yn noddi cystadleuaeth y stondin orau ac ail-orau o blith y sector gwirfoddol.

Llongyfarchiadau i’r enillwyr:-

Stondin orau ymhlith y sector gwirfoddol - RNLI;

Stondin ail-orau ymhlith y sector gwirfoddol - Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Cyflwynodd Ann Jones, Cadeirydd FfCSyM, y tlysau i’r enillwyr.