Crynodeb o wythnos SyM yn Sioe Frenhinol Cymru 2023

EnglishCymraeg

Roedd ein stondin yn y Sioe Frenhinol o dan ofal Ffederasiwn Morgannwg.

Yn seiliedig ar y thema ‘Tu allan i’r Bocs Mewn i’r Dyfodol’, arddangoswyd sut mae SyM wedi chwarae rhan flaenllaw wrth sicrhau newid cadarnhaol i ferched ac i gymdeithas. Roedd rhan o'r arddangosfa yn darlunio gweithgareddau SyM yn ei dyddiau cynnar trwy luniau gyda gweddill yr arddangosfa yn dangos gwahanol agweddau o’r mudiad heddiw fel addysg, dysgu gydol oes a phrosiectau.

Yn cael ei arddangos oedd cwiltiau calonnau gwyrdd Dangos y Cariad, a gynhyrchwyd gan aelodau Ffederasiwn Morgannwg, yn amlygu’r angen am weithredu brys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Hefyd arddangoswyd gwisg briodas wedi’i gwneud o wahanol blastigau i godi ymwybyddiaeth o’r angen i fynd i’r afael â llygredd plastig sy’n niweidio ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt.

Cynhaliwyd gweithgareddau plant ac arddangosiadau crefft ar y stondin yn ddyddiol fel gwneud cardiau a blodau papur.

Ar fore cyntaf y Sioe, beirniadwyd ein cystadlaethau. Thema cystadlaethau’r Fowlen Rhosod (cynnyrch a gwaith llaw) a Chwpan Brycheiniog 2023 oedd ‘Pob peth disglair a hardd’.  Yr enillwyr oedd Powys Brycheiniog a Cheredigion yn ôl eu trefn.

Darfganfyddwch fwy yma am y gystadleuaeth a’r ffederasiynau a ddyfarnwyd yn ail a thrydydd safle.

Ar brynhawn dydd Mawrth, lansiwyd yr ymgyrch Nid yn fy Enw i. Anerchodd panel o siaradwyr arbenigol y digwyddiad am nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod a’r cymorth sydd ar gael drwy’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, yr heriau ychwanegol a wynebir gan oroeswyr mewn ardaloedd gwledig, a rôl bwysig rhanddeiliaid wrth godi ymwybyddiaeth a herio agweddau ac ymddygiad amhriodol.

Wedi’i gadeirio gan Gadeirydd FfCSyM-Cymru Jill Rundle, anerchwyd y digwyddiad gan Joyce Watson AS; Ann Williams, Rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn; Rhianon Bragg, goroeswr cam-drin domestig; Ruth Dodsworth, goroeswr cam-drin domestig; Ian Rickman, Llywydd UAC; a Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.