Cryondeb o Gynhadledd Cymru 2024

EnglishCymraeg

Daeth aelodau o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cymru, a gynhaliwyd ar ffurf hybrid, yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar 4 Ebrill.

Yn ei anerchiad, myfyriodd Jill Rundle, Cadeirydd Pwyllgor Ffederasiynau Cymru ar y blynyddoedd diwethaf a’r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig Covid, ac wrth edrych i’r dyfodol, trafododd Theori Newid Sefydliad y Merched. Cyflwynodd Rhian Connick, Pennaeth FfCSyM-Cymru yr adroddiad gwaith.

Anerchodd Cadeirydd FfCSyM Ann Jones y cynadleddwyr ar y thema ‘Gwneud Gwahaniaeth’, gan fyfyrio ar bŵer SyM, o’i blynyddoedd cynnar hyd heddiw. Siaradodd y gantores a chyfansoddwraig Bronwen Lewis yn agored am ei diagnosis ADHD ac effaith ADHD ar ei bywyd bob dydd. Bu Ffion Fielding o brosiect Deiseb Heddwch Merched Cymru yn trafod stori hynod ddiddorol y ddeiseb heddwch1923-24 a gludwyd i America gan ddirprwyaeth o Gymru i alw am heddwch byd-eang.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Recriwtio 2023 FfCSyM-Cymru. Llongyfarchiadau i SyM Penllwyn, Ffederasiwn Ceredigion ar ennill y Wobr Recriwtio yn y categori ‘SyM gyda llai na 25 o aelodau’ ac i SyM Miskin & Mwyndu, Ffederasiwn Morgannwg, enillydd y wobr yn y categori ‘SyM gyda 25 aelod a throsodd’.

Cyflwynwyd gwobrau i enillwyr y Fowlen Rhosod a Chwpan Brycheiniog ar y thema ‘Popeth Disglair a Hardd’. Llongyfarchiadau i Ffederasiwn Powys Brycheiniog ar ennill y Fowlen Rhosod ac i Ffederasiwn Ceredigion ar ennill y Cwpan Brycheiniog.

Yn ystod y prynhawn, cafodd yr aelodau gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys paentio acrylig; taith gerdded hanesyddol o amgylch tref Aberhonddu; cyd-ganu gyda’r Choral Hub; yoga, ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod; a sesiwn ar-lein yn rhoi cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain.