Sesiwn ar-lein ‘Project Canser Cymunedau Gwledig’

EnglishCymraeg

Bydd y Rhwydwaith Cymuned Ffermio (FCN) yng Nghymru yn cynnal sesiwn ‘Project Canser Cymunedau Gwledig’ ar 10 Mehefin rhwng 7yh a 8.30yh yn arbennig ar gyfer aelodau SyM.

Nod prosiect FCN, mewn partneriaeth â Macmillan Cancer Support, yw codi ymwybyddiaeth o risgiau, arwyddion a symptomau canser mewn cymunedau ffermio a gwledig. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma ac yma https://fcn.org.uk/cancersupport/

I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu’r sesiwn, cwblhewch y ffurflen ar My WI os gwelwch yn dda. Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i My WI, cysylltwch â Sarah Thomas (s.thomas@nfwi-wales.org.uk) yn uniongyrchol.