Dim Rhagor o Drais: FfCSyM-Cymru yn cynnal digwyddiadau yn y Senedd

EnglishCymraeg

Ar 20 Tachwedd 2023, cynhaliodd FfCSyM-Cymru ddigwyddiadau yn y Senedd i nodi’r Diwrnod Rhyngwladol i Ddileu Trais yn erbyn Menywod a Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn, a gynhelir ar 25 Tachwedd, sef dechrau’r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd.
Bu digwyddiad trawsbleidiol ar gyfer rhanddeiliaid yn y prynhawn yn trafod yr angen i ysgogi pob aelod o gymdeithas i fod yn weithredwyr i atal a diweddu trais yn erbyn menywod.

Wedi’i gyd-gadeirio gan Jill Rundle, Cadeirydd FfCSyM-Cymru a Joyce Watson AS, roedd y siaradwyr wedi cynnwys Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol; Johanna Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol Trais yn Erbyn Menywod,  Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol; a Deb Critchley, Pennaeth Datblygu Prosiect - Newid sy’n Para, Cymorth i Ferched Cymru.

I ddilyn, cynhaliwyd wylnos yng ngolau canhwyllau ar risiau’r Senedd yn gynnar gyda’r nos lle bu goroeswyr yn rhannu eu profiadau a gwnaed datganiadau byr gan Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol; Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Llysgennad Rhuban Gwyn; Matt Brown, o'r mudiad gwrth-drais She is Not your Rehab; a chynrychiolydd o bob un o’r pleidiau gwleidyddol - Luke Fletcher AS (Plaid Cymru), Jack Sargeant AS (Llafur Cymru), Dr Altaf Hussain MS (Ceidwadwyr Cymreig) a Chynghorydd Bill Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).

Daeth y digwyddiad i ben gyda pherfformiad grymusol gan Choirs for Good Cardiff.