Dysgwch Gymraeg gyda SyM

EnglishCymraeg

Yn 2019 cydw ni â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu cwrs dysgu Cymraeg arlein ar gyfer dechreuwyr yn arbennig ar gyfer aelodau SyM.  Cyflwynir y cwrs yn dilyn arolwg gan FfCSyM-Cymru lle mynegodd 13% o aelodau di-Gymraeg ddiddordeb brwd i ddysgu'r iaith.

Mae’r cwrs yn cynnwys 6 uned ac yn para 10 awr. Mae’n hyblyg a fedrir ei gwblhau yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. Os hoffech ddysgu iaith newydd neu wella eich sgiliau iaith Cymraeg, bydd y cwrs hwylus a rhyngweithiol hwn yn berffaith i chi!

Er mwyn dechrau, ymwelwch â: https://learnwelsh.cymru/work-welsh/work-welsh-courses/womens-institute/

Cynllun Cyfaill Cymraeg

Er mwyn cefnogi aelodau i wella eu sgiliau iaith Cymraeg, rydyn ni wedi sefydlu Cynllun Cyfaill Cymraeg.

Ydych chi’n dysgu Cymraeg gyda Sefydliad y Merched? Hoffech chi rywun i ymarfer gyda?  Os felly cysylltwch â walesoffice@nfwi-wales.org.uk Gallwn ni eich rhoi mewn cysylltiad gyda rhywun sydd yn siarad Cymraeg ac yn fodlon sgwrsio gyda chi i wella eich sgiliau Cymraeg.