Lansiad yr ymgyrch Nid yn fy Enw i 2022 yn Sioe Frenhinol Cymru

EnglishCymraeg

Lansiwyd yr ymgyrch Nid yn fy Enw i 2022 ar stondin SyM yn Sioe Frenhinol Cymru ar 19 Gorffennaf.  Mynychwyd y digwyddiad gan amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, Sefydliad DPJ, CLA Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Cytûn, Uned y Brigadau Tân, Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, a Chymdeithas Corau Meibion Cymru.

Cyflwynodd Eirian Roberts, Cadeirydd FfCSyM-Cymru yr ymgyrch Nid yn fy Enw i.  Wedi ei sefydlu yn 2012 gyda Joyce Watson AS, mae’r ymgyrch yn recriwtio llysgenhadon gwryw i godi ymwybyddiaeth ac i wneud yr addewid Rhuban Gwyn i ‘beidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn ddistaw ynghylch trais gan ddynion yn erbyn menywod’. Ategodd Joyce Watson AS y brys o weithredu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a thynnodd sylw at yr heriau ychwanegol a wynebir gan oroeswyr mewn cymunedau gwledig.

Siaradodd Ian Rickman, Is-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) am gefnogaeth UAC i’r ymgyrch a’i hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth a hyfforddi ei holl staff i ddeall cam-drin domestig yn well a sut i gyfeirio pobl at gymorth arbenigol.

Dywedodd Neil Evans, Rheolwr Gorsaf a Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod yr holl staff wedi'u hyfforddi mewn diogelu. Tynnodd Neil sylw at y ffaith bod nifer yr atgyfeiriadau diogelu wedi treblu ers Covid. Roedd gan y Gwasanaeth, a oedd yn sefydliad achrededig Rhuban Gwyn, 10 llysgennad.

Dywedodd Ruth Dodsworth, a oedd mewn perthynas gamdriniol am bron i 20 mlynedd, nad oedd hi ar y pryd yn cydnabod ei bod yn cael ei cham-drin. Mae Ruth wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth ac yn rhannu ei phrofiadau ei hun i ysbrydoli goroeswyr eraill i ddod ymlaen a cheisio cyngor a chefnogaeth. Mae hi hefyd wedi rhoi adborth a hyfforddiant i’r heddlu ar adnabod arwyddion cam-drin domestig. Tynnodd Ruth sylw at bwysigrwydd cydweithio i ddileu cam-drin domestig. Gallai cael y sgyrsiau pwysig hynny achub bywyd rhywun.

Yn eu sylwadau cloi, anogodd Eirian Roberts a Joyce Watson AS y rhanddeiliaid i ddefnyddio eu rhwydweithiau i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod a galwodd ar fwy o lysgenhadon i ddod ymlaen i addo eu cefnogaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Nid yn fy Enw i ar gael yma: https://www.thewi.org.uk/wi-in-wales/campaigns/no-more-violence-against-women?lang=cy

Gall sefydliadau a grwpiau sydd â diddordeb mewn cefnogi’r ymgyrch gysylltu â Sarah Thomas yn Swyddfa FfCSYM-Cymru i ddarganfod mwy am gyfleoedd i gymryd rhan. E-bost: s.thomas@nfwi-wales.org.uk