Presenoldeb Sefydliad y Merched yn nigwyddiadau’r haf
Royal Welsh Show 2024
Sioe Frenhinol Cymru
Byddwn ni yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 21 a 24 Gorffennaf.
Eleni, bydd ein stondin o dan ofal Ffederasiwn Gwynedd Caernarfon. Bydd aelodau yno drwy gydol yr wythnos i groesawu ymwelwyr i'n stondin a sgwrsio am Sefydliad y Merched (SyM) a'r nifer o gyfleoedd y mae'n eu cynnig i fenywod.
Bydd arddangosfa SyM yn seiliedig ar y thema “Iechyd a Lles” ac yn cynnwys gweithgareddau y mae’r aelodau wedi cymryd rhan ynddynt. Bydd gwybodaeth ar nofio gwyllt, cerdded, seiclo, dringo, padlfyrddio a bywyd gwyllt o gwmpas Eryri. Bydd hefyd cystadleuaeth i blant i gyfri gloÿnnod byw ac arddangosiadau dyddiol ar ffeltio nodwydd, crefft siwgr a doliau macrame.
Bydd gwybodaeth am holl ymgyrchoedd SyM hefyd ar gael.
Bydd hefyd cyfle i brynu sgarffiau, clustogau, deiliaid siswrn a deiliaid pensiliau crochenwaith wedi'u gwneud â llaw.
Darganfyddwch fwy am Sioe Frenhinol Cymru yma.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecam
Bydd yr Eisteddfod yn cymryd lle ar gyrion Wrecsam o 2 tan 9 Awst.
August 2024
Bydd ein stondin, wedi ei leoli ar y Maes, o dan ofal Ffederasiwn Clwyd Dinbych. Bydd gennym amrywiaeth o ddeunyddiau hyrwyddo ac ymgyrchu ar gael. Am y tro cyntaf, bydd gennym hefyd ardal bwrpasol ar ein stondin lle bydd menywod a merched yn gallu ymlacio, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau crefft. Bydd rhai sesiynau hefyd yn digwydd yn yr ardal hon yn ystod yr wythnos gan gynnwys trafodaethau sy'n ymwneud â’n hymgyrchoedd Meddwl yn Wahanol: Merched Awtistig ac ag ADHD a Dim Mwy o Drais yn erbyn Menywod.
Darganfyddwch fwy am yr Eisteddfod yma.