Presenoldeb SyM yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2022

EnglishCymraeg

Roedd stondin Sefydliad y Merched yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nhregaron wedi tynnu sylw at ar yr amgylchedd a newid hinsawdd.  O dan ofal Ffederasiwn SyM Ceredigion, roedd y stondin yn seiliedig ar y thema ‘Troi’r Llanw’ gan ganolbwyntio ar afonydd a datgoedwigo. Wedi eu creu gan arlunydd lleol, arddangoswyd paneli addysgiadol yn gysylltiedig ag ymgyrch SyM Rhoi Pen ar Gawl Plastig a mandadau ar ddatgoedwigo ynghyd â sgarff newid hinsawdd. Roedd ymgyrchoedd eraill SyM gan gynnwys yr ymgyrchoedd am wasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig, canser yr ofari a sgrinio serfigol hefyd wedi cael eu hyrwyddo.

Dathlu penbwydd Cadwch Gymru’n Daclus yn 50 oed

Mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus, ar 3 Awst, cynhaliwyd digwyddiad dathlu ar stondin SyM i nodi penblwydd Cadwch Gymru’n Daclus yn 50. Arweiniodd gynnig a basiwyd gan aelodau SyM yn 1954 yn galw am ymgyrch i ‘warchod cefn gwlad rhag cael ei halogi gan sbwriel’ at ffurfiad y grŵp Cadwch Brydain yn Daclus ac yn ddiweddarach Cadwch Gymru’n Daclus yn 1972.

Enillwyr tlysau SyM

Er mwyn annog arddangosfeydd o safon uwch yn yr Eisteddfod, mae FfCSyM-Cymru yn noddi cystadleuaeth y stondin orau ac ail-orau o blith y trydydd sector ar Faes yr Eisteddfod.  Hefyd mae’n noddi cystadleuaeth addurno busnes neu gymuned i groesawu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal.

Llongyfarchiadau i enillwyr 2022:

Stondin orau ymhlith y trydydd sector - Cymorth Cristnogol;

Stodin ail-orau ymhlith y trydydd sector - Addysg Oedolion Cymru;

Cymuned wedi ei addurno gorau - Llanddewi Brefi

Cyflwynodd Ann Jones, Cadeirydd Cenedlaethol FfCSyM, y tlysau i’r enillwyr.