Arolwg yn dangos rhaniad rhwng trefi a chefn gwlad

EnglishCymraeg

Mae FfCSyM-Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas y Tirfeddianwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, wedi lansio canfyddiadau arolwg ar gysylltedd digidol.

Mae’r arolwg wedi dangos y bwlch enfawr rhwng ardaloedd trefol a rhai gwledig o ran mynediad i fand eang a’i sefydlogrwydd a derbyniad signalau ffonau symudol.

Gweler isod rhai o’r prif ganfyddiadau:

  • Roedd mwy na 50% o’r ymatebwyr o ardal wledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yr oedd ganddynt fynediad iddo yn gyflym ac yn ddibynadwy.
  • Dywedodd llai na 50% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig fod ganddynt fand eang safonol a dim ond 36% oedd â band eang cyflym iawn.
  • Dywedodd 66% fod band eang gwael wedi effeithio arnynt neu ar eu haelwydydd, o gymharu â phobl mewn ardaloedd trefol lle dywedodd 18% fod ganddynt fynediad i fand eang safonol ac roedd 67% â band eang cyflym iawn.
  • Er bod 80% o’r bobl a gymerodd ran yn defnyddio eu ffonau symudol i gyrchu’r rhyngrwyd, dim ond 68% o’r rhai â ffôn clyfar oedd â mynediad i rwydwaith symudol 4G neu 5G i gyrchu’r rhyngrwyd.
  • Wrth ddisgrifio’r signal ffonau symudol yn eu tai, dywedodd 57% o’r bobl o ardal wledig fod eu signal yn ‘annibynadwy’ a nododd 49% o’r rhai o ardal wledig fod eu signal yn ‘annibynadwy’ yn yr awyr agored.
  • Dywedodd 75% o ymatebwr nad oeddent yn gwybod ble i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau a chartrefi i’w helpu i gael mynediad i fand eang cyflym iawn.  Dim ond 19% oedd yn ymwybodol o Gynllun Talebau Band Eang Gigabit y Deyrnas Unedig gyfan.

Rydym wedi ysgrifennu ar y cyd at Lywodraeth Cymru yn amlinellu canfyddiadau’r arolwg. Rydym hefyd wedi galw am gyfarfod i drafod gweledigaeth a map ffordd Llywodraeth Cymru i ddarparu pawb â mynediad at gysylltedd cyflym a dibynadwy.

Darllenwch y datganiad i’r wasg isod.