Lansiad Cynllun Iechyd Menywod gan y Glymblaid Iechyd Menywod Cymru

EnglishCymraeg

Ar 28 Mai 2022, Diwrnod Rhyngwladol Gweithredu ar Iechyd Menywod, lansiodd y glymblaid Iechyd Menywod Cymru adroddiad i gyflawni gofal iechyd cyfartal i bawb yng Nghymru.

Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio fel rhan o’r glymblaid, sy’n cynnwys dros 60 o elusennau, cynrychiolwyr cleifion, clinigwyr a chyrff proffesiynol, i greu cynllun i helpu rhoi terfyn ar yr anghydraddoldebau iechyd a brofwyd gan fenywod, merched a rhai a bennwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni.

Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol, a materion sy’n gallu effeithio ar y boblogaeth hon ar adegau gwahanol o’u bywydau, ac yn gwneud cyfres o argymhellion i wella eu hiechyd, bywydau a lles - nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.  Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys gwella mynediad i wasanaethau arbenigol, gwella casgliad data, cefnogi cyd-gynhyrchu gwasanaethu cynaliadwy, a gwella hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymrwymo i ddrafftio cynllun. Mae angen i’r cynllun fod yn uchelgeisiol ac mae angen iddo gael ei gyd-gynhyrchu ag aelodau’r glymblaid, cleifion, a’r cyhoedd.

I ddarganfod mwy am yr adroddiad a gwaith y glymblaid, ymwelwch â https://www.ftww.org.uk/womenshealthwales/