Pêl-rwyd Cerdded
Bydd y prosiect yn gweld ffederasiynau ar draws Cymru yn trefnu sesiynau Pêl-rwyd Cerdded yn eu hardaloedd.
Mae Pêl-rwyd Cerdded yn fersiwn arafach o’r gêm; mae’n bêl-rwyd ond ar gyflymdra cerdded. Gall unrhyw un chwarae’r gêm, beth bynnag ei hoedran neu lefel ffitrwydd.
Wedi ei chefnogi gyda grant o £18,487 gan Chwaraeon Cymru, bydd y bartneriaeth yn galluogi pob ffederasiwn yng Nghymru i redeg 20 wythnos o Bêl-rwyd Cerdded. Bydd y sesiynau yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwysedig Pêl-rwyd Cerdded, mewn lleoliad o’u dewis.
Gall aelodau ddarganfod mwy am y prosiect ar My WI.