Mae Oxfam Cymru a Sefydliad y Merched wedi lansio ymgyrch ar y cyd yn galw ar fwy o weithredu er mwyn gwella gofal iechyd mamol. Mae’r ymgyrch Mawredd Mam - Mums Matter - yn tynnu sylw at gyn lleied o bŵer sydd gan lawer o fenywod mewn gwledydd sy’n datblygu dros ofal iechyd mamol eu hunain, a cheisio gwneud gwir wahaniaeth i’w dyfodol.
Mae Oxfam a Sefydliad y Merched yn annog eu haelodau i arwyddo deiseb, yn galw ar Lywodraeth y DU i gadw eu haddewidion i leihau y nifer o fenywod sy'n marw yn ystod genedigaeth drwy:
• Sicrhau fod y gwariant cymorth ar gyfer prosiectau iechyd mamol yn hyrwyddo hawliau menywod yn gryf ac yn amlwg.
• Darparu cefnogaeth hir dymor i lywodraethau gwledydd tlawd er mwyn eu cynorthwyo i gynyddu mynediad at ofal iechyd cyhoeddus am ddim.
• Cynyddu cyllid i hyfforddi bydwragedd a gweithwyr iechyd eraill, a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi â chyfleusterau ac offer da, a moddion ar gyfer gofal brys.
Caiff y ddeiseb ei chyflwyno i’r llywodraeth ym mis Mawrth 2011 ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Merched.