You are in:  Women's Institute > About the WI > NFWI-Wales > Newid yn yr Hinsawdd >

Newid yn yr Hinsawdd

Sefydliadau y Merched yn datblygu cysylltiadau â Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru

Members of Pwllheli WI with climate change champion Ffion Roberts.
Yn ystod Rhagfyr 2009, ymrwymodd SYM â’r chwe Hyrwyddwr/wraig Newid Hinsawdd yng Nghymru i annog pobl i wau gwresogydd gaeaf a chynilo arian ac allyriadau carbon.

Pobl ifanc yw’r Hyrwyddwyr a phenodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn cystadleuaeth i ddod o hyd i chwech o bobl ifanc sy’n medru defnyddio eu dylanwad er mwyn darbwyllo eu ffrindiau, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach i chwarae eu rhan drwy fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

Members of Llantwit Major WI with climate change champion Charlie Young
Fe wnaeth Sefydliadau y Merched Pwllheli, Treforgan, Llantrithyd Fawr, Penderyn, Grosvenor ac Ystalyfera cyfarfod â’u Hyrwyddwyr Newid yn yr Hinsawdd leol.

Codi tâl am fagiau siopa plastig untro
Yn ystod Haf 2009, cynhaliodd Sefydliad y Merched arolwg barn am ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno tâl am fagiau siopa plastig untro.  Cymerodd 510 o aelodau SYM ac eraill ran yn yr arolwg. Roedd wythdeg pedwar y cant o’r atebwyr o blaid cyflwyno tâl. Dadlwythwch ein hymateb llawn gan glicio ar y cyswllt ar y dde.

Plastic carrier bag free day in Pontypridd

Yn Rhagfyr 2008, trefnodd SYM Pontypridd ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol  Rhondda Cynon Taf a Chyfeillion y Ddaear Pontypridd ddiwrnod dim bagiau plastig ym Mhontypridd. Roedd aelodau allan ar y strydoedd ym Mhontypridd ar y diwrnod, yn rhoi gwybod i’r cyhoedd am yr angen i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd ac i gyfnewid bagiau siopa plastig untro am fagiau ail-ddefnyddio.

Atal Anrhefn Hinsawdd

Mae FfCSYM-Cymru yn aelod o Atal Anrhefn Hinsawdd (AAH) Cymru, clymblaid o sefydliadau cymdeithas sifil sy’n gweithio dros ddygyfor pryder y cyhoedd, a thrwy hyn y gweithrediad gwleidyddol angenrheidiol, i atal anrhefn hinsawdd.

Mae AAH Cymru yn datblygu rhwydwaith o siaradwyr gwirfoddol i raeadru gwybodaeth i grwpiau lleol am y newid yn yr hinsawdd. Cynhelir diwrnod hyfforddi yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 3 o Hydref. Bydd y cwrs undydd cymeradwyol hwn, yn cael ei redeg gan hwylusydd profiadol o COIN, yn rhoi’r sgiliau, syniadau a‘r hyder i chi berswadio eraill i weithredu dros newid yn yr hinsawdd. Mae’r cwrs am ddim, ond rhaid bwcio. I gofrestru, ffoniwch Kate Meakin os gwelwch yn dda ar 0300 200 1269 neu e-bostiwch kate@stopclimatechaos.org

Dadl ‘Unrhyw Gwestiynau’ ar Newid yn yr Hinsawdd a Datblygiad Cynaliadwy

Dadl ar newid yn yr hinsawdd a datblygiad cynaliadwy
Mynychodd dros 30 o unigolion y digwyddiad hwn a drefnwyd gan FfCSYM-Cymru a Chynnal Cymru a westiwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn Sioe Amaethyddol Cymru ar 21 Gorffennaf.

Roedd y panel, o dan gadeiryddiaeth Marylyn Haines Evans, wedi cynnwys Jane Davidson, A.C., Y Gweinidog Dros Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cynulliad Cymru; Helen Nelson, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cynnal Cymru - Sustain Wales; Helen Northmore, Pennaeth Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru; a Dr Paul Leinster, Prif Weithredwr Dros Dro Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gofynnir ystod eang o gwestiynau yn ystod y ddadl, yn amrywio o arbed ynni a biodanwydd, i gyflenwad bwyd, cymunedau cynaliadwy a thrafnidiaeth.