You are in:  Women's Institute > About the WI > NFWI-Wales > Dim Rhagor o Drais yn erbyn Merched >

Dim Rhagor o Drais yn erbyn Merched

Strategaeth Trais yn Erbyn Merched
Ar 25 Mawrth 2010, lansiodd Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, ‘Yr Hawl i Fod yn Ddiogel’.

Dadlwythwch ymateb FfCSYM-Cymru i’r ddogfen ymgynghori Cynllun Gweithredu Strategol i fynd i’r afael a thrais yn erbyn merched ac i ddiweddaru Strategaeth Cam-drin Domestig Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Grŵp Gweithredu Trais yn Erbyn Merched Cymru
Rydym yn aelod o’r clymblaid uchod sy’n cynnwys sbectrwm eang o sefydliadau ynghyd â sefydliadau gweithredu, elusennau, gwasanaethau darpariaeth, academyddion ac undebau llafur. Pwrpas y glymblaid ydy rhannu profiadau a sgiliau i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth, herio agweddau a phwyso am welliannau mewn polisi.

Mae’r grŵp wedi cyhoeddi adroddiad Trais yn Erbyn Merched: Pam Strategaeth Integredig ar gyfer Cymru? sy’n galw am adolygiad trylwyr o bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. Gellir lawrlwytho’r adroddiad a mwy o wybodaeth am yr ymgyrch o’r wefan www.walesvawgroup.com

Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru
Mae Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru’n wasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n dioddef cam-drin yn y cartref neu sydd am ragor o wybodaeth ar wasanaethau cefnogi sydd ar gael. Ffoniwch 0808 80 10 800.