| Anerchwyd y gynhadledd wasg, yn amlygu'r problemau yn gwynebu ffermwyr llaeth, gan Marylyn Haines Evans, Cadeirydd Ffederasiynau Cymru, Gareth Vaughan, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac Eifion Huws, Dirprwy-Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Siaradodd Marylyn Haines Evans am waith Sefydliad y Merched yn ymgyrchu dros fwyd a ffermio gwell. Dywedodd bod aelodau SYM yn adnabod cyfraniad positif ffermwyr llaeth i'r amgylchedd a chymunedau ac maent eisiau sicrhau bod ffermwyr llaeth ddim yn mynd allan o fusnes gan fydd hyn yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd a chymunedau gwledig.
|