| Ar 17 Hydref 2007, ymunon ni ar y cyd ag Amnest Rhyngwladol Cymru mewn ymgyrch i helpu dioddefwyr masnachu ar gyfer y fasnach ryw yng Nghymru. Mae ymchwil diweddar gan Amnest Rhyngwladol Cymru wedi darganfod bod masnachu pobl yn broblem sy’n tyfu mewn mwy a mwy o rannau o Gymru. Nid yw wedi ‘i gyfyngu i ddinasoedd fel Caerdydd a Chasnewydd yn unig; mae’n digwydd hefyd mewn rhannau o gymunedau gwledig fel Penmaenmawr, Bae Cemaes, Rhuddlan a Bae Colwyn.
%231%23.JPG)
Ar 23 Mawrth 2007, arwyddodd llywodraeth y DU Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl ac mae hyn yn rhoi goblygiadau ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu a buddsoddi er mwyn cefnogi dioddefwyr yng Nghymru. Mae ein hymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:- • Ddarparu llety diogel ar gyfer dioddefwyr masnachu mewn pobl yng Nghymru; • Ddarparu gwasanaethau cymorth, gofal meddygol a chyngor cyfreithiol yng Nghymru
Mae cannoedd o aelodau wedi cefnogi’r ymgyrch drwy ddanfon cerdyn post ymgyrchu at eich AS leol a’r Prif Weinidog. |