You are in:  Women's Institute > About the WI > NFWI-Wales > Merched yn Gwneud Gwahaniaeth >

Merched yn Gwneud Gwahaniaeth

54ydd Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Statws Menywod:  Beijing +15

Cafodd ein prosiect Merched yn Gwneud Gwahaniaeth wahoddiad i gynrychioli Sefydliadau Ddi-Lywodraethol (SDdLau) Cymreig  yn nigwyddiad Rhyngwladol Comisiwn ar Statws Menywod (CSM) yn Efrog Newydd rhwng 26 Chwefror a 3 Mawrth 2010.
Sefydlwyd Prosiect Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yn 2005 gan FfCSYM-Cymru mewn partneriaeth â Chlymblaid Genedlaethol Menywod Cymru a Rhaglen Tlodi Oxfam DU i annog a chefnogi mwy o ferched i ymglymu mewn bywyd cyhoeddus.

Mae’r prosiect yn ymglymu merched i gymryd rhan mewn rhaglen o hyfforddiant drwy ddechrau â Ennyn Newid ac yna mynd ymlaen i Merched i Mewn i Fywyd Cyhoeddus.

Ennyn Newid
Yr elfennau allweddol o’r hyfforddiant yw:-

• gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am y cyfleoedd i ‘gael clywed eu lleisiau’ a sut gallant gyfrannu yn bersonol at y prosesau gwneud penderfyniadau  - ar unrhyw lefel – yn lleol ac yn genedlaethol; ac
• ysgogi’r merched sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant i gymhwyso eu sgiliau, gwybodaeth a hyder newydd mewn dull ymarferol er mwyn gwella ansawdd bywyd i ferched yn eu cymunedau hwy.

Y grŵp blaenoriaethol i’r rhaglen hyfforddiant yw merched sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn bywyd cyhoeddus oherwydd hil, anabledd, iaith neu oherwydd eu bod nhw’n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Cwrs Ennyn Newid
Mae dros 150 o ferched o gefndiroedd eang wedi cymryd rhan yn hyfforddiant Ennyn Newid yng Nghasnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Sir Fôn, Yr Wyddgrug, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Castell-nedd Port Talbot.
Mae pob un o’r merched eisiau gwneud ‘gwahaniaeth’ yn eu cymunedau - ble maent yn aml yn cynnal rôl wirfoddol allweddol ond heb yr hyder i ddod yn ‘gwneuthurwyr  penderfyniad’ eu hunain.

Mae Ennyn Newid yn ymdrin â phynciau fel:-

• gael clywed eich llais;
• dod yn fwy strategol wrth fynd ymlaen â mater cymunedol;
• y broses gwneud penderfyniad mewn  Llywodraeth leol, ranbarthol a chenedlaethol Cymru; a
• lobïo ac ymgyrchu.

Merched i Mewn i Fywyd Cyhoeddus
Mae o gwmpas 70 o ferched wedi mynd ymlaen i ail gam y rhaglen Merched i Mewn i Fywyd Cyhoeddus sy’n annog y merched i weithio gyda chynghorwr/wraig bersonol sy’n medru eu cefnogi ar eu taith i mewn i fywyd cyhoeddus, ynghyd â chymryd rhan mewn  cysgodi swyddogaethau i roi’r ddealltwriaeth o’r ymrwymiad a’r disgwyliad o’r safle yr ydynt yn anelu ato ym mywyd cyhoeddus. Mae hyfforddiant sgiliau ychwanegol yn cael ei dosbarthu mewn adeiladu hyder, hyfforddiant pendantrwydd a sgiliau cyflwyno.

Mae tystiolaeth hyd yn hyn yn dangos fod llawer o’r merched sy’n cymryd rhan yn y rhaglen wedi cael yr hyder a’r sgiliau i wneud gwahaniaeth ac yn cymhwyso’n weithredol y rhain tu fewn eu cymunedau ac mewn bywyd cyhoeddus. Mae o leiaf tair merch wedi derbyn swyddi yn dilyn cynnydd mewn hyder.

Merched y prosiect gyda Joyce Watson AC yn ystod ymweliad a'r Senedd

Am ragor o wybodaeth ymwelwch a www.womenmakingadifference.org.uk neu cysylltwch a Paula Manley, Cydlynydd Rheoli y prosiect ar 029 2022 1965.  E-bost: wmad@btconnect.com