You are in:  Women's Institute > About the WI > NFWI-Wales > Timau Eco >

Timau Eco

Yn dilyn grant gan Amgylchedd Cymru, cafodd 14 aelod eu hyfforddi fel arweinwyr Tîm Eco mewn diwrnod hyfforddiant yng Nghaerfyrddin ar 24 Medi 2007.
Cyfarfod Tim Eco aelodau Sefydliad y Merched Aberporth.
Sefydlwyd 13 Tîm Eco, yn cynnwys rhwng 6 a 7 aelod, a oedd yn cyfarfod unwaith y mis dros bedwar mis i archwilio siopa, bwyd, trafnidiaeth, gwastraff ac egni yn y cartref. Roeddent yn rhannu syniadau a chefnogi eu gilydd wrth ymgymryd â gweithredoedd syml ac ymarferol i ddysgu am sut mae newid yn yr hinsawdd yn gysylltiedig â’u bywydau bob dydd.

Mae’r prif arbedion a wnaethpwyd fel a ganlyn:-
• Lleihau gwastraff cartref 16%;
• Lleihau’r trydan a ddefnyddiwyd 5%;
• Lleihau’r ynni gwresogi a ddefnyddiwyd 8%;
• Lleihau allyriadau carbon uniongyrchol 11%; a
• Lleihau’r dŵr a ddefnyddiwyd 22%.

Mae’r Tîm Eco o dan arweiniad Ann Jones o Landdewi Brefi wedi cael ei gynnwys fel astudiaeth achos mewn DVD a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru - Taclo Newid Hinsawdd Gyda’n Gilydd.  Fedrwch ddadlwytho’r DVD o wefan Cynnal Cymru.

Oes diddordeb gennych mewn sefydlu neu cymryd rhan mewn Tîm Eco yn eich cymuned?  Mae ein harweinwyr Timau Eco hyfforddedig o Geredigion, Morgannwg a Sir Gâr ar gael i gefnogi aelodau o ffederasiynau eraill i sefydlu timau. Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â Swyddfa FfCSYM-Cymru ar 029 2022 1712.