| Mae'r prosiect yn rhedeg mewn saith ardal yng Nghymru sef Ceredigion, Clwyd-Dinbych, Clwyd-Fflint, Morgannwg, Gwent, Sir Benfro a Phowys-Maldwyn ac yn cael ei ariannu ar y cyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Cydlynwyr Gwirfoddol y Prosiect yn mynychu sesiynau cymunedol ar y Bws Coginio sy'n ymweld ag ysgolion ar draws Cymru ac yn annog rhieni i gofrestru am gyrsiau di-dâl Ewch i Goginio yn eu hardal nhw.
Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Lisa Howells Swyddfa FfCSYM-Cymru ar 02920 221712 neu e-bost walesoffice@nfwi-wales.org.uk.
|