|
Mae Margaret Lloyd Jones, Cadeirydd FfCSyM-Cymru wedi ysgrifennu at Huw Lewis AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Tai, Adfywio a Threftadaeth. Derbyniwyd ymateb wrth CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar ddatblygiadau yn yr awdurdodau lle mae cynigion wedi cael eu cyflawni i gau llyfrgelloedd. Gallwch lawrlwytho’r llythyr a dderbyniwyd wrth CyMAL wrth y linc ar ochr dde'r dudalen.
Mae llythyr hefyd wedi cael ei anfon at bob AC i ddweud wrthynt am yr ymgyrch ac yn gofyn iddynt annog llywodraethau lleol o fewn eu hetholaeth i gynnal darpariaeth llyfrgelloedd lleol. Rydym wedi derbyn nifer o ymatebion yn cefnogi’r ymgyrch.
Fforch i Fforc - prynwch yn uniongyrchol a lleol! |