You are in:  Women's Institute > About the WI > NFWI-Wales > Digwyddiadau >

Digwyddiadau

Cynhadledd Flynyddol 2010 – Coleg Cris, Aberhonddu, 25 Mawrth
Bydd ein cynhadledd 2010 ar y thema Hamdden am Bleser o dan ofal Ffederasiwn Powys Brycheiniog.  Mae’r siaradwyr yn cynnwys Cadeirydd FfCSYM Ruth Bond, yr awdur Catrin Collier, cyfarwyddwr theatr Michael Bogdanov, Darlledydd BBC Melanie Doel ac ymgynghorydd a Chomisiynydd Comisiwn Cenedlaethol y Menywod Adele Baumgardt.

Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru 2009

Roedd ein stondin yn cynnwys arddangosiad du a gwyn deniadol - Strydoedd ar y Blaen gyda SYM - yn portreadu’r cyfleoedd eang sydd ar gael i aelodau.

Yn ystod y pedwar diwrnod, roedd hefyd cyfle i ymwelwyr i’r stondin pleidleisio ar faterion pynciol yn amrywio o godi tâl ar fagiau siopa untro i’r Cynulliad Cenedlaethol a’i bwerau deddfu. 

Arddangosfa SYM yn Sioe Amaethyddol Cymru
                                                                                        

Thema Cystadleuaeth y Fowlen Rhosod (crefft a chynnyrch) a Chwpan Brycheiniog (celf flodau) oedd ‘Tân ac Iâ'. Llongyfarchiadau i Ffederasiwn Gwynedd Caernarfon am ennill y Fowlen Rhosod a Ffederasiwn Powys Maldwyn am ennill y Cwpan Brycheiniog.

Enillydd y Fowlen Rhosod
Enillydd y Cwpan Brycheiniog

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2009, Meirion a’r Cylch

Roedd gennym bresenoldeb ar faes yr Eisteddfod a chroesawyd llawer o aelodau ac eraill i’r stondin a drefnwyd gan Ffederasiwn Morgannwg.  O dan ofal Ffederasiwn Gwynedd Meirionnydd, roedd croglun yn dangos pob agwedd o fywyd gwledig ym Meirionnydd a’i iaith, diwylliant a’i hunaniaeth, yn ffurfio cefndir yr arddangosfa.  Roedd y stondin hefyd yn portreadu'r ystod eang o gyfleoedd a gynigir gan Sefydliad y Merched i ferched.

I hybu safonau uwch o arddangosiadau yn yr Eisteddfod ymhlith y sector gwirfoddol, pob blwyddyn rydym yn noddi cystadleuaeth am y stondin orau a’r ail orau o’r sector gwirfoddol. Llongyfarchiadau i Fantell Gwynedd am ennill y gystadleuaeth eleni ac i Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd am ddod yn ail.

Derbyniad yn y Cynulliad

Nerys Evans AC a Janice Gregory AC gyda Margaret Lloyd Jones, Cadeirydd Cymru, a Chadeiryddion yr 13 Ffederasiwn.
Cynhalion ni dderbyniad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Mehefin i ddiweddaru Aelodau’r Cynulliad am ymgyrchoedd presennol FfCSYM ac i roi cyfle iddynt gwrdd â Chadeiryddion Ffederasiwn o fewn ei etholaeth neu ardal.

Cynhadledd Materion Cyhoeddus

Cafodd y gynhadledd materion cyhoeddus yn y Drenewydd ar 23 Mehefin ei fynychu gan 120 o aelodau dros Gymru. Roedd y prif ymgyrchoedd a ganolbwyntir arnynt yn ystod y dydd yn cynnwys Newid Hinsawdd a Dim Rhagor o Drais yn erbyn Merched. Hefyd siaradodd Ruth Bond am y proses penderfyniadau a fe glywson ni am Gonfensiwn Cymru Gyfan gan aelod y Confensiwn, Shân Ashton.  Anerchodd Wally Shaw o’r Gymdeithas Cadwyr Gwenyn Cymru'r aelodau am ddirywiad gwenyn a’r bygythiad i’r ecosystem. Cymerodd aelodau rhan mewn nifer o weithdai yn ystod y dydd.

Delegates taking part in the workshops.
Delegates taking part in the workshops.

Cynhadledd Flynyddol 2009, Venue Cymru, Llandudno: 1/2Ebrill

Mynychodd dros 700 o aelodau Cynhadledd Cymru o dan ofal Ffederasiwn Gwynedd Caernarfon.  Thema'r gynhadledd oedd ‘Mwyngloddiau a Mynyddoedd’ ac ymhlith y siaradwyr yr oedd Rhys Meirion y tenor operatig byd-enwog, David Chapman archaeolegydd 'Ancient Arts', aelodau tîm Cymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub Mynydd Cymru a Fay Mansell Cadeirydd FfCSYM.

Marylyn Haines Evans yn annerch y gynhadledd flynyddol.
Phil Benbow o SARDA Cymru yn annerch y gynhadledd

Pob blwyddyn yng Nghynhadledd Cymru, mae FfCSYM-Cymru yn cyflwyno gwobr i’r ddau SYM sydd wedi cyflawni’r cynnydd mwyaf mewn aelodaeth.

Cyflwynwyd Gwobr Recriwtio 2008 ar gyfer Sefydliadau gyda llai na 30 aelod i SYM Drefach Felindre, Sir Gâr am gynyddu o 6 aelod i 14 aelod, cynnydd o 133%.  Derbyniodd Jill Price, Cadeirydd Ffederasiwn Sir Gâr y wobr.

Enillydd y Sefydliad gyda 30 aelod a throsodd oedd SYM Sully, Ffederasiwn Morgannwg. Cynyddodd y Sefydliad ei aelodau o 46 aelod i 58 aelod, cynnydd o 23.4%.  Derbyniwyd y wobr gan Margaret Powell, Is-gadeirydd y Sefydliad.

Fay Mansell a Margaret Powell
Jill Price yn rhannu llwyddiannau Sefydliad y Merched Drefach Felindre

Cyflwynwyd tlysau'r Fowlen Rhosod a Chwpan Brycheiniog i Ffederasiwn Sir Benfro a derbyniwyd gan Mary Howells, Cadeirydd y Ffederasiwn.

Eisteddfod Ddwyieithog Rhyngsirol: 6 Hydref 2007
Mynychodd 300 o aelodau ar draws Gymru yr Eisteddfod yng Nghanolfan y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Cymerodd Ffederasiynau ac aelodau unigol rhan mewn nifer o gystadlaethau yn amrywio o adroddiad digri, deuawd agored a siarad ar y pryd i ddawnsio llinell, corau, cystadlaethau ysgrifenedig, celf a chrefft a ffotograffiaeth. 

Llongyfarchiadau i enillwyr yr Eisteddfod:-

1af      Ceredigion
2il       Sir Gâr
3ydd   Powys Brycheiniog

Annette Thomas o Bowys Brycheiniog yw enillydd Cystadleuaeth y Gadair
Rydym yn ymestyn ein llongyfarchiadau hefyd i Annette Thomas, Powys Brycheiniog a enillodd Cystadleuaeth y Gadair. Fedrwch ddadlwytho’r canlyniadau llawn a’r delyneg a dderbyniwyd ar gyfer Cystadleuaeth y Gadair gan Annette Thomas o’r adran ‘dadlwytho’ ar y dde.

Annette Thomas yn cael ei hurddo yn seremoni cadeirio'r Bardd