|
Wedi ei lansio gan FfCSYM-Cymru, Oxfam a Chlymblaid Genedlaethol Merched Cymru yn Rhagfyr 2005, mae’r prosiect yn ymwneud a chyfraniad merched yn y rhaglen hyfforddi ‘Engendering Change’. Prif elfennau’r hyfforddiant ydy :-
• i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth merched o’r cyfleoedd ‘i’w lleisiau i gael eu clywed’ a sut meant yn gallu cyfrannu’n bersonol at brosesau gwneud-penderfyniadau ar unrhyw lefel, yn lleol neu genedlaethol; ac
• i ysgogi merched i gymryd rhan mewn hyfforddiant er mwyn defnyddio eu sgiliau newydd, gwybodaeth a hyder mewn modd ymarferol i wella ansawdd bywyd i ferched yn eu cymunedau eu hun.
Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn targedu merched sy’n byw yng Nghasnewydd, Pen y Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Ynys Môn, Neath Port Talbot a Wrecsam ac sydd eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ yn eu cymunedau.
Ariannir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree, Ymddiriedolaeth Lloyds TSB ar gyfer Lloegr a Chymru, Oxfam a FfCSYM-Cymru.
Mae gwybodaeth bellach ar gael oddi wrth Paula Manley, Cydlynydd Rheoli, sydd yn gweithio yn Swyddfa FfCYM-Cymru. Rhif ffôn: 029 2022 1965. |